Welcome
aboutus

Gwasanaethau Myfyrwyr :: Help a Chyngor Gyrfaol

Pa bynnag gwrs fyddwch chi'n ei ddilyn yn ystod eich gyfnod fel myfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor bydd angen i chi ystyried y cam nesaf. Beth bynnag fydd eich dewis bydd yna ddigon o gymorth ar gael i gynllunio eich dyfodol. Bydd eich tiwtor yno i'ch helpu a bydd digon o gymorth ac arweiniad ar gael gan John Elfyn Gruffydd, Cynghorydd Gyrfaoedd y Coleg a hefyd gan Gyrfa Cymru.

Bydd y cymorth sydd ar gael yn cynnwys :

  • Cynllunio’r cam ymlaen i addysg uwch
  • Paratoi cais i brifysgolion
  • Llenwi ffurflen UCAS
  • Y farchnad waith leol a chenedlaethol
  • Ceisio am swydd
  • Llunio CV
  • Sgiliau cyfweliad
  • Siaradwyr gwadd ac ymweliadau

Gallwch drefnu i weld John Elfyn Gruffydd trwy'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr.

Dolgellau - yn yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ar ddydd Mawrth a dydd Iau

Pwllheli - yn yr ystafell ger yr Ystafell Staff ar ddydd Llun, Mercher a Gwener

Glynllifon - gwnewch apwyntiad drwy eich tiwtor – fel arfer ar ddydd Mercher

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn cyd-weithio yn agos gyda’r Coleg i ddatblygu rhaglen addysg ac arweiniad gyrfa sy’n addas i fyfyrwyr. Bydd cynghorydd o’r Gyrfa Cymru yn ymweld â’r Coleg yn rheolaidd i roi :

  • Help i chi ddewis eich gyrfa
  • Cyngor ar pa gwrs neu bynciau colegol i’w cymryd yn y brifysgol
  • Gwybodaeth am swyddi a chyfleon hyfforddiant.

Gellwch wneud apwyntiad i weld Cynghorydd Gyrfa trwy Uned Gyrfaoedd y Coleg neu trwy gysylltu gyda’r Ganolfan Gyrfaoedd ym Mhorthmadog ar (01766) 514 501.

Gwybodaeth Gyrfaoedd

Mae Llyfrgell y Coleg yn cynnwys Uned Gyrfaoedd ac mae yno wybodaeth ar bob agwedd o swyddi a gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Prospectws Colegau Addysg Uwch a Phrifysgolion Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.
  • Sut i ddewis cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch
  • Sut i ymgeisio am swydd
  • Nawdd gan ddiwydiant
  • Cymryd blwyddyn allan
  • Gweithio dramor
  • Meddalwedd Gyrfaoedd wedi ei gynllunio i helpu myfyrwyr ddewis gyrfa a chyrsiau coleg.
Gwynedd NI
latest news
Richard ar siwrnai glir i Rolls-Royce

19th May 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs