Welcome
aboutus

Gwasanaethau Myfyrwyr :: Cyflwyniad

Gwaith yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr yw rhoi cefnogaeth i chi. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i fyfyrwyr. Pennaeth Cynorthwyol - Cefnogi'r Dysgwr yw Rona Lewis sydd yn gyfrifol am yr Uned, ac mae dwy Swyddog Lles, Mererid Davies yn ei chynorthwyo yn Nolgellau a Menai Evans ym Mhwllheli a Glynllifon ar yr adegau nodir isod:

Dolgellau

Mererid Davies - Llun, Mawrth, Mercher 9.00am - 5.00pm - Iau 9.00am - 4.30pm

Pwllheli

Menai Evans - Llun a Mercher 9.00am - 3.30pm

Glynllifon

Menai Evans - Dydd Mawrth 9.30am - 4.30pm

Gallant roi gwybodaeth i chi am:

  • Undeb y Myfyrwyr
  • Gohebiaeth ynglyn a Threth y Cyngor
  • Help i lenwi ffurflenni o bob math
  • Grantiau
  • Trosglwyddo gwybodaeth am wahanol wasanaethau
  • Cymorth i gael llety
  • Polisiau'r Coleg

Maent hefyd yn gyfrifol am Grant Cefnogi'r Dysgwr sef cronfa o arian i helpu myfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd i gael dau pen llinyn ynghyd. Mae'r gronfa yn gallu helpu tuag at gostau cwrs, costau teithio, gwarchod ag ati.

Uned Cefnogi'r Dysgwr

Mae cefnogaeth ar gael yn yr Uned mwyn ei gwneud hi'n bosibl i bob myfyriwr orffen ei gwrs yn llwyddiannus a chyrraedd ei lawn botensial. Dyma'r math o bethau y gellir roi cymorth arnynt:

  • Sgiliau Astudio
  • Cynllunio Traethawd / Aseiniadau
  • Gwneud / Cymryd Nodiadau
  • Rheoli eich Amser
  • Darllen, Sillafu ac Atalnodi yn effeithiol
  • Datblygu a chynyddu geirfa
  • Ysgrifennu'n gywir
  • Mathemateg i gyd-fynd a'ch cwrs

Ann Williams sy'n rhoi y gefnogaeth yn Nolgellau a Gwyneth Speake ym Mhwllheli a Glynllifon.

Ymwelwyr Iechyd

Bydd Ymwelwyr Iechyd yn galw mewn i'r Coleg yn wythnosol i siarad a chynghori myfyrwyr ar faterion yn ymwneud ag iechyd.

Cynghorydd

Mae Cynghorydd cyflogedig gan y Coleg a bydd ar gael i siarad gyda myfyrwyr sy'n anhapus, yn bryderus neu'n ansicr.


Gwynedd NI
latest news
Richard ar siwrnai glir i Rolls-Royce

19th May 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs