
Digwyddiadau/Dyddiau Agored :: Cyflwyniad
Cyn dewis cwrs - dewch draw i weld beth sydd ar gael i chi…
Rhwng Chwefror a Mehefin, byddwn yn cynnal cyfres o ddyddiau agored. Galwch draw i weld y coleg dros eich hun, mewn awyrgylch anffurfiol a chael blas ar yr amrywiaeth eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yma. Os ydych chi’n ddisgybl mewn Ysgol Uwchradd yn Nwyfor neu Feirionnydd, cewch wybod am yr ymweliadau yma trwy eich Cyd-gysylltydd Gyrfaoedd.
Os nad ydych yn ddisgybl yn un o’r ysgolion yma neu yn oedolyn sydd a diddordeb mewn dod i'r dyddiau agored, cysylltwch â ni yn y Coleg trwy lenwi’r ffuflen ymholiadau ar-lein neu ffoniwch 01758 701385 a gofyn am Alison Owen,Swyddog Cyswllt Ysgolion.
