
Cyrsiau :: A-Z
Addysg Gorfforol - Lefel AS & A
Pwrpas y cwrs fydd eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel hyfforddwr/hyfforddwraig, athro/athrawes, ffisiotherapydd neu weinyddwr/weinyddwraig ym maes Addysg Gorfforol.
Hyd y cwrs:
AS = Blwyddyn. Lefel A = 2 flynedd
Level:
3
Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Bydd angen 6 TGAU gradd A*-C i allu astudio pynciau UG (AS). Bydd y gofynion yn wahanol ar gyfer oedolion.
Lle fyddai’n astudio?
D,P
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch yn astudio pynciau sy’n gysylltiedig â chwaraeon, er enghraifft seicoleg a gwyddoniaeth, a byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol, sgiliau ymchwil a hunan-hyder. Dyma’r prif feysydd y byddwch yn eu hastudio:
A fydd arholiadau?
Bydd arholiad ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd eich gwaith cwrs yn cael ei asesu hefyd.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Cewch dystysgrif UG (AS) mewn Addysg Gorfforol. Gallwch astudio’r pwnc am flwyddyn arall a chael tystysgrif lefel A. Ar ben hyn, bydd cyfle i chi ennill cymwysterau ychwanegol, fel Tystysgrif Cymorth Cyntaf a Thystysgrif Hyfforddiant Pêl-droed, Hoci a Badminton.
Beth wedyn?
Gallwch fynd ymlaen i wneud cwrs gradd mewn pynciau megis Addysg, Gwyddor Chwaraeon, Ffisiotherapi Chwaraeon a Seicoleg Chwaraeon. Mae nifer o’n cynfyfyrwyr wedi dewis gwneud y cwrs ar y cyd â chyrsiau galwedigaethol megis Twristiaeth a Hamdden. Mae rhai wedi mynd i weithio mewn canolfannau hamdden ar ôl gwneud y cwrs.
