Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

Tystysgrif Gyntaf / Diploma BTEC mewn Gofal Ceffyl
Mae hwn yn gwrs ymarferol, sy’n gysylltiedig â gwaith wedi’i gynllunio er mwyn datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion realistig yn y gweithle. Mae’n cwmpasu gwybodaeth gyffredinol a sgiliau ymarferol technegol.

Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys: lles ceffyl, ymddygiad, cyflwyniad, trafod ac ymarfer. Mae’r modiwl marchogaeth o bwysigrwydd mawr gyda myfyrwyr yn gyfrannog mewn marchogaeth bedair gwaith yr wythnos.

Wedi cwblau’r cwrs yn llwyddiannus a chydag adroddiad tiwtor boddhaol gellir datblygu i Ddiploma / Tystysgrif Genedlaethol. Mae’r Diploma Cyntaf yn cyfateb i bedair TGAU gradd A*-C a gellir ei astudio fel cwrs llawn amser neu ran-amser. Astudir y Dystysgrif fel rheol yn rhan-amser dros gyfnod o flwyddyn.

Hyd y cwrs:

* Tystysgrif Gyntaf – Blwyddyn Rhan Amser
* Diploma Cyntaf - Blwyddyn Llawn Amser

Level:
Lefel 2

Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?

* 4 TGAU D - G
* GNVQ Lefel Sylfaen
* Lefel 1 NVQ Gofal Ceffyl
* Tystysgrif Rhagarweiniol / Diploma mewn Diwydiannau Tir
* Gall gofynion mynediad fod yn wahanol i oedolion

Lle fyddai’n astudio?
G

Beth fyddai’n ei astudio?
Mae hwn yn gwrs sylfaenol sy’n cynnig cyflwyniad i’r diwydiant ceffylau. Byddwch chi’n dysgu llawer o theori ac yn datblygu nifer o sgiliau ymarferol a hefyd yn cael cyfle i wneud gwaith ymchwil yn y maes. Byddwch chi’n cael treulio cyfanswm o 6 wythnos ar brofiad gwaith. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer gweithio mewn nifer o swyddi sy’n ymwneud â cheffylau. Byddwch chi’n astudio’r unedau isod. Dwy uned graidd: • Profiad Gwaith • Y Diwydiant a Sefydliadau Ceffylau Pedair uned arbenigol o’r isod: • Ymddygiad a Lles Ceffylau • Cyflwyniad i Fywydeg • Sgiliau Ystad • Sefydlu a Chynnal Cynefin • Trin ac Ymarfer Ceffylau • Gofalu am Geffylau • Paratoi a Chyflwyno Ceffylau • Marchogaeth Ceffylau

A fydd arholiadau?
Ni fyddwch yn sefyll arholiadau ond byddwch yn gwneud aseiniadau yn ystod y flwyddyn.

Beth fydd gen i ar y diwedd?
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych gymhwyster Diploma Cyntaf mewn Gofalu am Geffylau. Yn ystod y cwrs byddwch hefyd wedi cael cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol, sef BHS / NVQ Lefel 1, Prawf Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffyrdd.

Beth wedyn?
Wedi i chi gwblhau’r cwrs, gallwch fynd yn eich blaen i wneud cwrs Diploma Cenedlaethol neu Dystysgrif Genedlaethol mewn Astudiaethau Ceffylau neu gwblhau arholiadau’r BHS. Gall hyn arwain at waith fel gweithiwr stabl neu wastrodwr.

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs