
Cyrsiau :: A-Z
Tystysgrif Gyntaf / Diploma BTEC mewn Gofal Anifeiliaid Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys: Sefydliadau Anifeiliaid, nyrsio anifeiliaid, profiad gwaith mewn gofal anifeiliaid, bridio a gwastrodi, yn ogystal â gofal cwsmer ac adwerthu.
Wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chydag adroddiad tiwtor boddhaol gellir datblygu i’r Diploma / Tystysgrif Genedlaethol.
Mae’r Diploma Cyntaf yn cyfateb i bedair TGAU gradd A*-C a gellir ei astudio fel cwrs llawn amser neu ran-amser. Astudir y Dystysgrif fel rheol yn rhan-amser dros gyfnod o flwyddyn.
Mae hwn yn gwrs ymarferol, sy’n gysylltiedig â gwaith wedi’i gynllunio er mwyn datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Byddwch yn dysgu trwy gwblhau
prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion realistig yn y gweithle. Mae’n cwmpasu gwybodaeth gyffredinol a sgiliau technegol ymarferol.
Hyd y cwrs:
* Tysysgrif Gyntaf -Blwyddyn Rhan Amser
* Diploma Cyntaf - Blwyddyn llawn amser
Level:
Lefel 2
Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
* 4 TGAU D-G
* NVQ Gofal Anifeiliaid Lefel 1
* Tystysgrif Rhagarweiniol / Diploma mewn Diwydiannau Tir
* Gall gofynion fod yn wahanol ar gyfer oedolion
Lle fyddai’n astudio?
G
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch yn dysgu llawer am ddulliau o ofalu am anifeiliaid ac am wahanol fathau o anifeiliaid egsotig. Byddwch hefyd yn dysgu ychydig o wyddoniaeth a sgiliau swyddfa, sy’n hanfodol yn y maes hwn.
Meysydd astudiaeth yw :
• Gofal anifeiliaid.
• Iechyd anifeiliaid.
• Cyflwyniad i fywydeg.
• Profiad gwaith.
• Cyflwyniad i ddiwydiannau’r tir.
• Adwerthu a gofal cwsmeriaid.
• Sefydlu a chynnal cynefin.
• Bridiau a thwtio anifeiliaid.
• Sefydliadau anifeiliaid.
• Nyrsio anifeiliaid.
A fydd arholiadau?
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Beth wedyn?
