
Cyrsiau :: A-Z
Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Amaethyddiaeth Mae unedau'r cwrs yn cynnwys cynhyrchiant da byw, cynhyrchiant glaswellt a chnydau, astudiaethau busnes, arallgyfeirio, rheolaeth amgylcheddol, defnydd peiriannau a sgiliau stad.
Caiff y myfyrwyr addysg ddwyieithog gan diwtoriaid brwdfrydig a phrofiadol a gwneud defnydd o’r adnoddau rhagorol sydd ar gael ar y fferm a’r gweithdy peirianneg. Mae ymweliadau a thripiau yn rhan annatod o ddatblygiad myfyrwyr ar y cwrs, bydd cyfleoedd i brofi arferion da ac ehangu gorwelion ar ymweliadau i ffermydd ar draws Prydain, sioeau a digwyddiadau rhyngwladol a thripiau dramor. Bydd cyfleoedd hefyd i ennill cymwysterau ychwanegol wrth astudio’r cwrs megis tystysgrifau Cludiant Anifeiliaid, Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol, Defnyddio Llif Gadwyn, Defnyddio Plaleiddiaid, Trochi Defaid a Gyrru Tractor.
Mae’r cymhwyster yn gyfwerth â thair Lefel A. Wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gall myfyrwyr ddewis mynd ymlaen i addysg uwch gyda’r graddau angenrheidiol.
Gall myfyrwyr astudio rhai unedau o’r Diploma Cyntaf yn unig un ai yn llawn amser neu ran amser i ennill cymhwyster Tystysgrif Cenedlaethol.
Mae hwn yn gwrs ymarferol, perthnasol i waith sy’n datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Byddwch yn cael eich dysgu a’ch asesu trwy gyflawni prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion sy’n realistig i’r gweithle.
Hyd y cwrs:
2 flynedd
Level:
Lefel 3
Rhan/Llawn Amser:
Full Time
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
* 4 TGAU Gradd A- C.
* Rhoddir pwyslais ar y pynciau craidd sef Ieithoedd, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
* Diploma Cyntaf BTEC ynghyd ag adroddiad calonolgol gan y tiwtor
* Gall gofynion mynediad fod yn wahanol i oedolion.
Lle fyddai’n astudio?
G
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch yn dysgu llawer am y diwydiant amaethyddol a byddwch hefyd yn dysgu nifer o sgiliau ymarferol gan gynnwys cyfrifiaduron, cyllid, rheoli fferm fel busnes, peiriannau, ac agweddau ar gadwraeth.
Unedau gorfodol:
Rheoli busnes*, Rheolaeth da byw, Egwyddorion gwyddor planhigion a phridd*, Cynhyrchu da byw, Sgiliau rheoli ystad, Egwyddorion peirianwaith*, Defnyddio peiriannau, Cynhyrchu cnydau porthiant, Profiad gwaith*, Amaeth a’r amgylchedd*.
(*Dyma’r unedau a astudiwch ar gyfer y Dystysgrif Genedlaethol).
A fydd arholiadau?
Ni fyddwch yn cael arholiadau ond byddwch chi’n cael eich asesu ar eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Ar ôl llwyddo yn y cwrs bydd gennych gymhwyster Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth. Gallech hefyd ennill cymhwyster NVQ a thystysgrifau yn y cyrsiau byr sydd ar gael yn y Coleg.
Beth wedyn?
Ar ôl cael Diploma Cenedlaethol gallwch fynd yn eich blaen i wneud cwrs HNC/HND neu BSc. Ar ôl cael Tystysgrif Genedlaethol gallwch fynd yn eich blaen i wneud cwrs Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth neu NVQ 3 a 4 mewn Amaethyddiaeth, neu Reolaeth a Chyfrifon. Gall y cwrs hefyd arwain at yrfa fel Rheolwr Uned neu waith hunan-gyflogedig. Ar ôl cael Diploma Cenedlaethol gallech ddod yn hyfforddwr mewn coleg neu gallech gael unrhyw swydd yn y diwydiant amaeth.
