
Cyrsiau :: A-Z
Diploma Cyntaf BTEC mewn Amaethyddiaeth Mae unedau'r cwrs yn cynnwys cynhyrchiant da byw, cynhyrchiant glaswellt, defnydd peiriannau a sgiliau stad. Caiff y myfyrwyr addysg ddwyieithog gan diwtoriaid brwdfrydig a phrofiadol a gwneud defnydd o’r adnoddau rhagorol sydd ar gael ar y fferm a’r gweithdy peirianneg.
Mae’r cymhwyster yn gyfwerth â phedwar TGAU gradd A*-C. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chael adroddiad cadarnhaol gan eich tiwtor mae’n bosib mynd ymlaen i wneud Diploma Cenedlaethol BTEC.
Gall myfyrwyr astudio rhai unedau o’r Diploma Cyntaf un ai yn llawn amser neu ran amser i ennill cymhwyster Tystysgrif Cyntaf sydd gyfwerth â 2 TGAU A* -C.
Mae hwn yn gwrs ymarferol, perthnasol i waith sy’n datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Byddwch yn cael eich dysgu a’ch asesu trwy gyflawni prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion sy’n realistig i’r gweithle.
Hyd y cwrs:
Blwyddyn
Level:
Lefel 2
Rhan/Llawn Amser:
Full Time
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
* 4 TGAU D-G
* Diploma / Tystysgrif Rhagarweiniol Diwydiannau’r Tir
* NVQ Lefel 1
* Gall gofynion mynediad fod yn wahanol i oedolion
Lle fyddai’n astudio?
G
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch chi’n dysgu llawer am y diwydiant amaethyddol a byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau ymarferol.
Unedau gorfodol:
• Cyflwyniad i ddiwydiannau’r tir.
• Cyflwyniad i fywydeg.
• Defnyddio tractor.
• Cyflwyniad i hwsmonaeth.
• Profiad mewn gwaith.
Bydd yn rhaid i chi astudio 3 uned yn ychwanegol at y rhai ar y rhestr uchod i ennill Diploma Cyntaf mewn Amaethyddiaeth.
Bydd yn rhaid i chi astudio 1 uned yn ychwanegol at y rhai ar y rhestr uchod i ennill Tystysgrif Gyntaf mewn Amaethyddiaeth.
A fydd arholiadau?
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol. Byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith ymarferol, a hefyd bydd y gwaith theori’n cael ei asesu drwy aseiniadau.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Cewch gymhwyster Diploma Cyntaf mewn Amaethyddiaeth. Mae’n bosibl i chi hefyd ennill NVQ 1 mewn Amaeth neu dystysgrifau mewn rhai cyrsiau byr perthnasol.
Beth wedyn?
Wedi i chi gwblhau’r cwrs yma’n llwyddiannus byddwch yn gallu mynd yn eich blaen i ddilyn cwrs Tystysgrif Genedlaethol, Diploma Cenedlaethol, neu NVQ Lefel 2 a 3. Gall hyn arwain at gyrsiau gradd neu HND, neu at yrfa fel:
• Gweithiwr fferm.
• Rheolwr uned.
