
Cyrsiau :: A-Z
NVQ mewn Cynnal a Chadw Peiriannau Amaethyddol (BAGMA)
Mae hwn yn gwrs rhan-amser sy’n gadael i fyfyrwyr hyfforddi, asesu ac ennill sgiliau yn y coleg ac wrth weithio yn y diwydiant. Mae’n gwrs ymarferol sy’n anelu at ddatblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n ofynnol gan y diwydiant. Mae unedau'r cwrs yn cynnwys gweithgareddau diagnostig, trwsio a chynnal, heidrolics, technoleg injan, systemau trydanol ac agweddau o weithredu yn y maes.
Hyd y cwrs:
Byddwch chi’n mynychu’r Coleg am dri diwrnod yr wythnos am flwyddyn o leiaf.
Level:
Lefel 2 a 3
Rhan/Llawn Amser:
Full Time
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Profiad yn y diwydiant ynghyd â lleoliad gwaith perthnasol am ddeuddydd yr wythnos.
Lle fyddai’n astudio?
G
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch yn dysgu sut i wasanaethu a chynnal a chadw peiriannau amaethyddol. Os byddwch chi’n dilyn cwrs Lefel 2 bydd yn rhaid i chi astudio’r unedau hyn:
• Cyfrannu at iechyd a diogelwch
• Symud llwythi
• Defnyddio offer llaw i siapio cydrannau
• Trwsio cydrannau drwy sodro a weldio
• Cyfrannu at weithgareddau effeithiol yn y gwaith
• Cadw’r gweithle yn daclus
• Tynnu cydrannau o dractorau a pheiriannau a gosod rhai newydd
• Cynnal a chadw tractorau a pheiriannau
Ar gyfer cwrs Lefel 3 (sy’n fwy cymhleth ac yn cynnwys gwaith damcaniaethol) byddwch yn astudio’r unedau canlynol:
• Cynnal iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith
• Darganfod a chwrdd â gofynion technegol cwsmeriaid mewn perthynas â thractorau a pheiriannau
• Darganfod namau mewn tractorau a pheiriannau
• Datgymalu, cydosod ac atgyweirio cydrannau mewn tractorau a pheiriannau
• Profi tractorau a pheiriannau ar ôl eu hatgyweirio
• Cydgysylltu gweithgareddau yn y gwaith
• Atgyweirio ac addasu cydrannau drwy weldio
Mae'r ddau gwrs yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith.
A fydd arholiadau?
Ni fyddwch yn sefyll arholiadau. Byddwch chi’n cadw llyfr cofnodion o’ch gwaith ac yn cael eich asesu ar eich gwaith ymarferol.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych Dystysgrif NVQ 2 neu 3 mewn Peirianneg Amaethyddol.
Beth wedyn?
Gallech ddilyn cwrs Diploma Cenedlaethol a all arwain at amryw o swyddi yn y diwydiant peirianneg ar lefel crefftwr arbenigol.
