Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

Diploma Rhagarweiniol BTEC mewn Diwydiannau’r Tir (Lefel 1)
Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n rhoi blas o dri agwedd o ddiwydiannau’r tir sef Amaethyddiaeth, Rheolaeth Cefn Gwlad a Pheirianneg Amaethyddol. Byddwch yn cael eich dysgu a’ch asesu drwy gwblhau tasgau ymarferol a thaflenni gwaith. Mae unedau’r cwrs yn cynnwys defnydd peiriannau, hwsmonaeth anifeiliaid, sgiliau stad a chadwraeth amgylcheddol. Caiff y myfyrwyr addysg ddwyieithog gan diwtoriaid brwdfrydig a phrofiadol a gwneud defnydd o’r adnoddau rhagorol sydd ar gael ar y fferm a’r gweithdy peirianneg.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus a chael adroddiad cadarnhaol gan eich tiwtor mae’n bosib mynd ymlaen i arbenigo mewn un o’r meysydd drwy wneud Diploma Cyntaf BTEC mewn un ai, Amaethyddiaeth, Rheolaeth Cefn Gwlad neu Peirianneg Amaethyddol

Gall myfyrwyr astudio rhai unedau o’r Diploma Rhagarweiniol yn unig un ai yn llawn amser neu ran-amser i ennill cymhwyster Tystysgrif Rhagarweiniol.

Hyd y cwrs:
Blwyddyn

Level:
Lefel 1

Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Dim cymwysterau swyddogol. Asesir addasrwydd myfyriwr i’r cwrs mewn cyfweliad gan roi sylw i brofiad, parodrwydd i ddysgu a geirda

Lle fyddai’n astudio?
G

Beth fyddai’n ei astudio?

A fydd arholiadau?

Beth fydd gen i ar y diwedd?

Beth wedyn?

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs