Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

NVQ Therapi Harddwch - Lefel 2
Byddech yn dewis y cwrs yma er mwyn cael sylfaen dda i ennill y sgiliau pwysicaf mewn therapi harddwch a dysgu gweithio yn effeithiol gydag eraill.

Hyd y cwrs:
Blwyddyn llawn-amser.

Level:
NVQ Lefel 2

Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?

* O leiaf 2 TGAU Gradd A*-C
* NVQ Lefel 1 Therapi Harddwch
* Brwdfrydedd dros weithio yn y diwydiant, golwg drwsiadus a chwrteisi gyda phobl
* Gall gofynion mynediad fod yn wahanol ar gyfer oedolion.

Lle fyddai’n astudio?
D

Beth fyddai’n ei astudio?

* Iechyd a diogelwch yn y salon harddwch
* Sgiliau derbynfa
* Datblygu a chynnal gwaith tîm effeithlon
* Gofalu am gwsmeriaid
* Gweithio mewn tîm
* Coluro
* Triniaethau wyneb
* Triniaethau llygaid
* Cwyro
* Goleuo gwallt
* Trin y dwylo
* Trin y traed
* Gwasanaeth cwsmeriaid

A fydd arholiadau?
Byddwch yn gwneud aseiniadau ysgrifenedig. Bydd eich gwaith ymarferol yn cael ei asesu gan diwtor y cwrs a chewch eich holi am eich dealltwriaeth o’r pynciau yr ydych wedi’u hastudio. Yn ogystal, bydd angen i chi gadw eich tystiolaeth mewn portffolio. Bydd arholwr allanol yn edrych ar y dystiolaeth hon i sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safon.

Beth fydd gen i ar y diwedd?
Os llwyddwch i basio’r holl bynciau uchod byddwch yn cael:


* NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch.
* Tystysgrif Sgiliau Allweddol.
* Tystysgrif RIPHH (Iechyd a Hylendid).
* NVQ2 Unedau 201, 202 a 203 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Beth wedyn?
Gallwch gofrestru mewn coleg arall er mwyn ennill cymhwyster NVQ lefel 3. Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn wedi llwyddo i gael gwaith mewn canolfannau sba, salonau harddwch ar longau teithio, mewn gwestai, gyda chwmnïau teledu ag ati.

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs