
Cyrsiau :: A-Z
NVQ Trin Gwallt - Lefel 1
Byddech yn dewis y cwrs yma er mwyn ennill sgiliau i weithio’n hyderus ac effeithiol mewn salon trin gwallt.
Hyd y cwrs:
Blwyddyn.
Level:
NVQ Lefel 1
Rhan/Llawn Amser:
Rhan Amser
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Bbrwdfrydedd dros weithio yn y diwydiant, golwg drwsiadus a chwrteisi gyda phobl.
2 TGAU gradd D-E
Lle fyddai’n astudio?
D
Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch hefyd yn helpu steilydd i liwio, pyrmio a steilio gwallt. Byddwch chi’n treulio peth amser ar brofiad gwaith mewn salonau trin gwallt a byddwch yn cael cyfle i ymweld â sioeau masnach.
• Siampwio
• Cyflyru
• Dyletswyddau derbynfa
• Iechyd a diogelwch yn y salon
• Hylendid yn y salon
• Gwaith tîm
A fydd arholiadau?
Ni fydd arholiadau ar ddiwedd y cwrs hwn. Bydd eich gwaith ymarferol yn cael ei asesu gan diwtor y cwrs a chewch eich holi ar eich dealltwriaeth o’r pynciau yr ydych wedi’u hastudio. Yn ogystal, bydd angen i chi gadw eich holl nodiadau a thystiolaeth o’ch tasgau ymarferol. Bydd arholwr allanol yn edrych ar y dystiolaeth hon i sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safon.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Os llwyddwch i basio’r holl bynciau uchod byddwch yn cael cymhwyster NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt a roddir gan City & Guilds / HABIA, a rhai unedau City & Guilds mewn Gofal Cwsmeriaid.
Beth wedyn?
Gallwch symud ymlaen i wneud NVQ Lefel 2. Gallwch benderfynu mynd yn syth i weithio fel cynorthwy-ydd salon a chymryd rhan mewn sioeau a chystadlaethau.
