Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Iechyd)
Mae’r cwrs yn addas i rai sydd eisiau astudio’r maes gofal ar gyfer gweithio mewn ysbytai, gofal cartref, gofal dydd neu fel therapyddion. Mae’n addas ar gyfer mynediad i brifysgol, hyfforddiant pellach, fel nyrsio, neu waith cymdeithasol. Byddwch yn astudio nifer o bynciau gan gynnwys ymchwilio i’r maes iechyd, ychydig o waith gwyddonol, hybu byw yn iach, edrych ar ôl yr amgylchedd, materion cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd. Byddwch yn trafod gofal am blant, henoed a rhai ag anghenion penodol. Byddwch yn treulio peth amser ar brofiad gwaith, isafswm o 200 awr. Mae’n bosib defnyddio’r cwrs hwn i fynd ymlaen i addysg uwch gyda’r pwyntiau angenrheidiol. Mae’r Dystysgrif yn gyfwerth â 2 Lefel A a’r Diploma yn gyfwerth â 3 Lefel A.

Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Level:
Lefel 3

Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?

* 4 TGAU Gradd A* - C, i gynnwys os yn bosib Mathemateg, Gwyddoniaeth ac un ai Cymraeg neu Saesneg. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr gyda graddau TGAU da
* Diploma 1af mewn Iechyd a Gofal (Teilyngdod)
* Cymhwyster Lefel 2 perthnasol a / neu brofiad gwaith perthnasol
* Bydd rhaid cael tystysgrif gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn y cewch chi fynd ar brofiad gwaith
* Mynychu Cyfweliad.

Lle fyddai’n astudio?
D

Beth fyddai’n ei astudio?
Mae’r cwrs yn addas i rai sydd eisiau astudio’r maes gofal ar gyfer gweithio mewn ysbytai, canolfannau iechyd neu gartrefi nyrsio. Mae’n addas ar gyfer mynediad i brifysgol, hyfforddiant pellach neu waith cymdeithasol. Byddwch yn astudio nifer o bynciau gan gynnwys ymchilio i’r maes iechyd, ychydig o waith gwyddonol, hybu byw yn iach, edrych ar ôl amgylchedd, materion cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd. Byddwch yn trafod gofal am blant, henoed a rhai ag anghenion penodol. Byddwch yn treulio peth amser ar brofiad gwaith. Mae’n bosib defnyddio’r cwrs hwn i fynd ymlaen i addysg uwch gyda’r pwyntiau angenrheidiol. Mae’r Dystysgrif yn gyfwerth â 2 Lefel A a’r Diploma yn gyfwerth â 3 Lefel A.

A fydd arholiadau?
Bydd ambell uned yn cael ei hasesu drwy waith cwrs ac unedau eraill yn cael eu hasesu drwy arholiad.

Beth fydd gen i ar y diwedd?
Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, gan ddibynnu ar yr unedau sy’n cael eu cynnig ar y safle, mae’n bosibl y bydd cyfle i chi ennill y tystysgrifau canlynol:

• Tystysgrif Cymorth Cyntaf.
• Symud Pethau’n Ddiogel.
• Tystysgrif Glendid Bwyd Sylfaenol.

Beth wedyn?
Os ydych yn astudio'r Tystysgrif, gallwch wneud cwrs uwch megis Diploma Cenedlaethol mewn Plentyndod Cynnar. Bydd rhai myfyrwyr yn mynd i weithio mewn cartrefi henoed, i faes gofal plant, fel cynorthwy-ydd ffisiotherapydd, neu fel cynorthwy-ydd iechyd mewn ysbyty.

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs