
Cyrsiau :: A-Z
Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Byddech yn dewis y cwrs yma gan eich bod chi wrth eich bodd gyda phlant, ac eisiau gweithio gyda phlant neu fynd ymlaen i wneud cwrs nyrsio, cwrs dysgu plant cynradd neu gwrs gweithiwr cymdeithasol.
Hyd y cwrs:
2 flynedd.
Level:
3
Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
* O leiaf 4/6 TGAU Gradd A*-C
* Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr gyda graddau TGAU uwch
* Diploma 1af BTEC mewn Iechyd a Gofal (Teilyngdod*)
* Mynychu cyfweliad
* Asesiad o’ch sgiliau iaith
* Bydd rhaid cael tystysgrif gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn y cewch chi weithio gyda phlant
* Gall gofynion mynediad fod yn wahanol ar gyfer oedolion.
Lle fyddai’n astudio?
D,P
Beth fyddai’n ei astudio?
Iechyd plant, anghenion arbennig plant, sut mae plant yn tyfu a datblygu, diwylliant a chrefydd plant o wahanol grwpiau ethnig, materion cyfreithiol a chymdeithasol sy’n ymwneud â phlant, a chymorth cyntaf. Ar brofiad gwaith, cewch weithio gyda phlant hyd at 8 oed gyda theulu, mewn ysgol gynradd, ysgol feithrin, cylch chwarae, meithrinfa ddydd, ysbyty, neu gyda phlant ag anghenion arbennig.
A fydd arholiadau?
Nagoes - er ei fod yn gwrs prysur! Byddwch yn cael nifer o aseiniadau, a bydd yn rhaid i chi lwyddo i gwblhau pob un i safon dderbyniol. Hefyd, bydd rhai aseiniadau integredig yn cael eu gosod a’u hasesu’n allanol gan y bwrdd arholi.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Pan fyddwch wedi cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd gennych Dystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol mewn Plentyndod Cynnar. Yn ogystal bydd cyfle i chi gael tystysgrif Glendid Bwyd a Chymorth Cyntaf.
Beth wedyn?
Gallwch gael mynediad i goleg addysg uwch i ddilyn cwrs gradd mewn addysg, nyrsio, cymdeithaseg neu gwrs HND mewn Blynyddoedd Cynnar. Hefyd mae nifer o’n cyn-fyfyrwyr wedi cael gwaith fel gweinyddesau mewn ysgolion cynradd neu wedi mynd i warchod plant fel nani yma neu dramor.
