Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

Cwrs Cyswllt
Byddwch yn astudio am un neu ddau ddiwrnod yr wythnos. Gallwch gyfuno’r cwrs hwn gyda gweithgareddau eraill. Cewch ddewis astudio: Tystysgrif Glendid Bwyd Sylfaenol, Garddwriaeth, Sgiliau Cyfathrebu, Cadwraeth, Codi Waliau Sych, Tystysgrif Cymorth Cyntaf, Sgiliau Cartref ac Amaethyddiaeth. Ar ddiwedd y cwrs mae’n bosibl y byddwch wedi ennill nifer o dystysgrifau defnyddiol iawn mewn Glendid Bwyd, Cymorth Cyntaf, Grym Gair, Tystysgrif Sylfaen Alwedigaethol a Thystysgrif y Coleg Agored. Bydd hyn yn help i chi fynd yn eich blaen i gwrs uwch yn y Coleg neu i waith.

Hyd y cwrs:
Blwyddyn: 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos

Level:
N/A

Rhan/Llawn Amser:
Llawn

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Unigolion ag anawsterau dysgu. Efallai eich bod yn berson ifanc sydd ar eich blwyddyn olaf yn yr ysgol ac sydd angen mwy o gefnogaeth wrth symud o’r ysgol i addysg bellach. Neu efallai eich bod yn oedolyn sy’n mynychu gwasanaethau dyddiol, neu’n byw adref ac angen cyfle i ddatblygu sgiliau. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ddod i’r Coleg yn rhan-amser neu drwy gwrs cyswllt. Byddwch hefyd yn cael cyfle i flasu rhai o’r cyrsiau eraill sy’n cael eu cynnig yn y Coleg.

Lle fyddai’n astudio?
G

Beth fyddai’n ei astudio?
Byddwch chi’n cael help i ddatblygu’r sgiliau sydd gennych yn barod a hefyd yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd. Byddwch yn cael dewis astudio rhai o’r unedau hyn: • Tystysgrif Glendid Bwyd Sylfaenol. • Garddwriaeth. • Sgiliau cyfathrebu. • Cadwraeth. • Tystysgrif Cymorth Cyntaf Brys. • Amaethyddiaeth. • Sgiliau cartref. • Sgiliau arbennig, e.e. codi waliau sych, paratoi ar gyfer gwaith. • Gofal anifeiliaid.

A fydd arholiadau?

Beth fydd gen i ar y diwedd?
Erbyn diwedd y cwrs gallwch fod wedi ennill y tystysgrifau hyn: • Cyfathrebu Sylfaenol gyda Wordpower CGLI 3793. • Tystysgrif Sylfaen Alwedigaethol NPTC. • Tystysgrif y Coleg Agored NWOCN.

Beth wedyn?
Cwrs llawn-amser neu ennill mwy o dystysgrifau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs