
Cyrsiau :: A-Z
Sgiliau cefn gwlad a Garddio
Ar y cwrs Sgiliau Cefn Gwlad a Garddio byddwch yn dod i’r Coleg am ddiwrnod yr wythnos am flwyddyn. Mae’r cwrs yn addas os ydych chi dros 16 oed, yn mwynhau gweithio yng nghefn gwlad ac eisiau datblygu sgiliau perthnasol gydag ychydig o gefnogaeth ychwanegol. Cewch weithio yn yr hen ardd furiog, yn y goedwig ac yn yr adeiladau coedwigaeth. Byddwch yn dysgu plannu coed ifanc, yn dod i adnabod llwyni a choed, yn dysgu am offer garddio a’u defnyddio’n ddiogel, yn dysgu ffensio, yn defnyddio ac yn gofalu am beiriannau garddio, yn codi waliau cerrig ac yn cynnal a chadw llwybrau.
Hyd y cwrs:
1 diwrnod yr wythnos am flwyddyn.
Level:
N/A
Rhan/Llawn Amser:
Llawn
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl dros 16 oed sydd ag anawsterau dysgu. Mae’n addas iawn ar gyfer pobl sy’n gweithio yng nghefn gwlad ac sydd eisiau dysgu sgiliau sy’n berthnasol i’w gwaith.
Lle fyddai’n astudio?
G
Beth fyddai’n ei astudio?
Mae Glynllifon mewn lleoliad arbennig o addas ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn derbyn eich hyfforddiant mewn lleoliadau gwahanol ar yr ystad. Bydd y gwersi garddio’n cael eu cynnal yn hen ardd furiog y Coleg, a byddwch chi’n dysgu’r sgiliau cefn gwlad yn y caeau a’r coedlannau.
Byddwch yn cael dewis astudio:
• Plannu coed ifanc.
• Dod i adnabod llwyni a choed.
• Dysgu am offer garddio a’u defnyddio’n ddiogel.
• Ffensio.
• Defnyddio a gofalu am beiriannau garddio.
• Codi waliau cerrig.
• Cynnal a chadw llwybrau.
A fydd arholiadau?
Gall myfyrwyr ddilyn modiwlau sy’n arwain at gymwysterau.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Beth wedyn?
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â’r Tim Rheoli Gofal, Agoriad a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Bwriad y cwrs yw sicrhau eich body n cael gwireddu eich dymuniad personol a rhoi i chi sgiliau fyddwch yn gallu eu defnyddio yn lleol.
