
Cyrsiau :: A-Z
Cerddoriaeth - Lefel AS & A
Trwy astudio’r pwnc hwn cewch gyfle i ddysgu am sawl math o gerddoriaeth a chewch ddatblygu eich sgiliau perfformio, cyfansoddi, gwrando a dadansoddi. Cewch hefyd gyfle i gydweithio â myfyrwyr Drama i lwyfannu sioe gerdd. Yn ychwanegol i ofyniad mynediad sydd ar dudalen disgwylir i chi fod â gradd A*, A neu B mewn Cerddoriaeth a sgiliau perfformio ar lais neu offeryn.
Hyd y cwrs:
AS = Blwyddyn. Lefel A = 2 flynedd
Level:
3
Rhan/Llawn Amser:
Llawn Amser
Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
I astudio’r cwrs, bydd arnoch angen 6 TGAU Gradd A-C gan gynnwys gradd A* neu B mewn Cerddoriaeth. Gall gofynion fod yn wahanol ar gyfer oedolion.
Lle fyddai’n astudio?
D,P
Beth fyddai’n ei astudio?
Cewch gyfle i ddysgu am sawl math o gerddoriaeth ac i fwynhau cerddoriaeth.
A fydd arholiadau?
Cewch eich asesu drwy arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol ar ddiwedd y flwyddyn, gwaith ffolio a’r gwaith y byddwch wedi’i gyfansoddi.
Beth fydd gen i ar y diwedd?
Cewch dystysgrif UG (AS) mewn Cerddoriaeth. Gallwch astudio’r pwnc am flwyddyn arall a chael tystysgrif lefel A.
Beth wedyn?
Wedi i chi gwblhau’r cwrs yma’n llwyddiannus gallwch symud ymlaen i wneud HND neu radd prifysgol mewn cerdd ac edrych ymlaen at yrfa yn y cyfryngau, fel cerddor proffesiynol, ym maes cyhoeddi, technoleg cerddoriaeth, y theatr (technegol) ac ati.
