Welcome
aboutus

Cyrsiau :: A-Z

Celf & Dylunio - Diploma Cenedlaethol BTEC
Mae’r cwrs yma yn eich galluogi i ddatblygu eu sgiliau lluniadu, paentio, dylunio gan gynnwys dylunio graffeg, dylunio gemwaith, tecstiliau a ffasiwn, ffotograffiaeth ynghyd â sgiliau sefydlu busnes. Mae y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn gwneud cais am gwrs gradd fel dilyniant i’r cwrs yma. Mae’r Diploma yn gyfwerth â 3 Lefel A.

Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Level:
3

Rhan/Llawn Amser:
Rhan Amser

Beth fydd ei angen i wneud y cwrs?
Bydd angen 4 TGAU Gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg a naill ai Cymraeg neu Saesneg, Celf a Dylunio neu Ddylunio a Thechnoleg

Lle fyddai’n astudio?
D

Beth fyddai’n ei astudio?
Mae hwn yn gwrs addas ar gyfer unigolion sydd eisiau datblygu gyrfa ym maes Celf a Dylunio. Bydd y cwrs hwn yn rhoi blas i chi o bynciau fel:

• Lluniadu

• Hanes celf

• Paentio

• Cerflunwaith

• Ffotograffiaeth

• Dylunio graffeg

• Ffasiwn

• Tecstilau

• Dylunio tri dimensiwn

Bydd y cwrs eang hwn yn eich paratoi ar gyfer arbenigo mewn un maes penodol o Gelf a Dylunio.

A fydd arholiadau?
Byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith ymarferol drwy gydol y cwrs.

Beth fydd gen i ar y diwedd?
Ar ddiwedd y cwrs bydd gennych chi Ddiploma Cyn-Radd CBAC mewn Celf a Dylunio.

Beth wedyn?
Ar ôl gorffen y cwrs hwn gallwch fynd yn eich blaen i astudio cwrs gradd mewn maes mwy arbenigol o gelf a dylunio. Mae nifer o’n cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel artistiaid neu ddylunwyr hunangyflogedig, neu fel dylunwyr graffig a dylunwyr tri dimensiwn. Mae eraill yn gweithio i gwmnïau aml-gyfrwng neu’n gweithio fel dylunwyr dodrefn, gemwaith neu gerameg.

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs