Welcome
aboutus

Cyrsiau :: Gwneud cais

Llenwi'r Ffurflen Gais

  • Mae copi o'r ffurflen gais ar gael gan eich Athro Gyrfaoedd yn yr ysgol. Cofiwch fod modd i chi ofyn i John Elfyn Gruffydd neu Alison Owen o'r Coleg am gymorth wrth lenwi'r ffurflen.
  • Gallwch wneud cais am fwy nag un cwrs, ond mae'n bwysig eu rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.
  • Gallwch wneud cais am gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel AS heb ddod i benderfyniad terfynol hyd ddiwedd Awst pan fydd canlyniadau TGAU wedi eu cyhoeddi.

Os yn ymgeisio am gyrsiau Lefel AS, yna dylech restru ar y ffurflen gais y pynciau sydd o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ni fydd hwn yn cael ei dderbyn fel eich dewis terfynol - bydd yn haws i chi ddod i benderfyniad pan fyddwch yn gwybod canlyniadau'r TGAU.

Ar ôl llenwi'r ffurflen gais dylech ei phasio ymlaen i'r Athro Gyrfaoedd - peidiwch a'u hanfon yn uniongyrchol i'r Coleg.

Wedi llenwi'r ffurflen gais

Cyrsiau Galwedigaethol (TAG Gymhwysol, NVQ neu Ddiploma)

  • . Os yr ydych wedi gwneud cais am gwrs galwedigaethol byddwn yn anfon llythyr atoch yn eich gwahodd am gyfweliad anffurfiol yn y Coleg i drafod eich dewis - mae croeso i rieni / gwarcheidwaid ddod hefyd. Bydd y cyfweliadau hyn yn cael eu cynnal fel arfer yn ystod wythnosau cyntaf Tymor yr Haf.
  • Yn dilyn cyfweliad byddwn yn ysgrifennu atoch yn amlinellu'r cynnig. Fel arfer bydd y cynnig yn amodol (e.e. yn dibynnu ar ganlyniadau TGAU) ond ar gyfer rhai cyrsiau gellir gwneud cais di amod.
  • Gyda'r llythyr cynnig bydd ffurflen i chi ei dychwelyd i ni i gadarnhau eich bod yn derbyn y cynnig.

Lefel AS

Gan y bydd canlyniadau TGAU yn bwysig i'ch helpu i benderfynu'n derfynol pa bynciau i'w dilyn ni fydd yna gyfweliad ffurfiol ar gyfer cyrsiau Lefel AS. Fodd bynnag fe fydd cyfle i chi a'ch rhieni / gwarcheidwaid i drafod natur a chynnwys y gwahanol bynciau lefel A gyda'r tiwtoriaid perthnasol cyn i'r cwrs ddechrau.

Cofiwch fod modd i chi dderbyn cynnig ar gyfer cyrsiau galwedigaethol a chadw eich cais am gwrs Lefel AS ar agor.

Wedi i'r canlyniadau TGAU gael eu cyhoeddi

  • Bydd y Coleg yn cael canlyniadau TGAU ar y diwrnod y byddant yn cael eu cyhoeddi a byddant yn anfon llythyr at bob ymgeisydd o fewn dau ddiwrnod gwaith.
  • . Bydd modd i chi drafod eich dewis terfynol o gyrsiau bryd hynny.
Gwynedd NI
latest news
Richard ar siwrnai glir i Rolls-Royce

19th May 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs