Cyrsiau :: Cyflwyniad
Y rhesymau am ddewis Coleg Meirion-Dwyfor:
- Mwy o ddewis academaidd – cewch ddewis o lu o Lefelau A ac AS, neu astudio’r Fagloriaeth Gymreig newydd.
- Mwy o ddewis galwedigaethol – os ydy’n well gennych gyrsiau mwy ymarferol, cewch ddewis o’n hamryw gyrsiau galwedigaethol fel y Diploma Cenedlaethol BTEC neu NVQ, neu gallwch ennill cyflog tra’n dysgu gyda Phrentisiaeth Fodern.
- Canlyniadau da – Bob blwyddyn mae myfyrwyr llwyddiannus yn cael llefydd mewn prifysgolion o’u dewis ac yn mynd ymlaen i swyddi.
- Help pan fyddwch ei angen – cewch faint fynnoch o gyngor ac arweiniad i’ch helpu i wneud y penderfyniadau iawn ynglŷn â’ch gyrfa, tra bydd eich tiwtor personol yn eich cefnogi drwy gydol eich cwrs.
- Byddwch yn barod am waith – fel myfyriwr llawn amser cewch fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwr lleol. Ac os byddwch yn dewis rhaglen hyfforddi, cewch gyflog tra byddwch yn ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn cenedlaethol gan y diwydiant.
Cliciwch yma i chwilio am gwrs fesul Adran
Fe ellir hefyd chwilio am gwrs fesul enw neu deipio i mewn eiriau allweddol yn yr opsiwn chwilio am gwrs.