
Amdanom Ni :: Neges y Pennaeth
Neges y Pennaeth
O fis Ionawr i fis Medi, bydd y Coleg yn trefnu nifer o ddyddiau agored yn Nolgellau a Phwllheli a hefyd yn ymweld â sawl Confensiwn Gyrfaoedd yn yr ardal er mwyn i ni gael cyflwyno gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl i’n darpar fyfyrwyr cyn iddynt ymuno â ni ym mis Medi.
Fe fydd yna felly sawl achlysur i chi gael gwybod mwy am y Coleg am ein cyrsiau a bydd cyfle i chi gyfarfod gyda’r staff. Cofiwch fodd bynnag os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw beth, neu os oes unrhyw beth yn eich poeni yna bydd croeso i chi gysylltu â ni rhwng rwan a mis Medi ac fe wnawn ein gorau i roi gymaint o wybodaeth â sy’n bosibl a rhoi eich meddwl yn dawel.
Byddwch yn siwr o dderbyn addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf – mae ein darlithwyr ac ein staff yn ymroddgar ac yn gweithio yn galed i sicrhau fod ein myfyrwyr yn llwyddo.
Mae’r Coleg yn llwyddiannus, ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Mae dyfodol cyffrous a disglair o’n blaenau – beth am ymuno efo ni a bod yn rhan o’r llwyddiant hwnnw.
Edrychaf ymlaen i’ch cyfarfod yn fuan.
Efallai eich bod yn ddisgybl mewn ysgol leol, neu yn oedolyn yn ystyried ymuno â ni ar gwrs, neu yn riant i ddarpar fyfyriwr, ond beth bynnag eich rheswm dros ddarllen y wefan yma, hyderaf y bydd yn rhoi yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch.
