
Amdanom Ni :: Newyddion
Cwblhau'r Gwaith o uno’r Colegau (2010-04-01 )
Cwblhawyd camau terfynol yr uniad cyfreithiol rhwng Coleg Llandrillo Cymru, yn Sir Conwy a Sir Ddinbych, a Choleg Meirion-Dwyfor yng Ngwynedd.
Mewn gohebiaeth i Gadeirydd y Gorfforaeth ddechrau’r wythnos, cadarnhaodd Swyddfa’r Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, fod yr uniad wedi’i gymeradwyo. Yn sgil hynny, diddymwyd Bwrdd Coleg Meirion-Dwyfor, ac ehangwyd Bwrdd Coleg Llandrillo Cymru er mwyn rhoi cynrychiolaeth gymesur i Goleg Meirion-Dwyfor.
Mae’r Coleg cyfun newydd yn un o’r mwyaf yng Ngwledydd Prydain. Mae ganddo tua 1300 o staff, dros 21,000 o fyfyrwyr yn astudio mewn naw campws mewn tair sir, a throsiant o tua £45m.
Mae’r ddau Goleg wedi croesawu’r newyddion. Dywedodd John Bellis, Cadeirydd Corfforaeth Coleg Llandrillo Cymru: “Rydym yn hynod o falch fod y Cynulliad wedi rhoi sêl ei bendith, ac edrychwn ymlaen at y cyfleoedd a ddaw yn sgil yr uniad hwn. Roedd y ddwy Gorfforaeth yn unfryd o blaid yr uno. Fe ddaw â manteision sylweddol i staff, myfyrwyr a chymunedau ledled y rhanbarth.”
“Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r Coleg a’r ardaloedd y bydd y sefydliad estynedig yn eu gwasanaethu”, meddai Huw Evans, OBE, Pennaeth Coleg Llandrillo Cymru. “Bydd yr uniad yn darparu cyfleoedd i ymwneud â chymunedau a busnesau lleol, drwy gefnogi a bod yn sensitif i anghenion lleol. Cyrraedd y safon uchaf fydd y brif flaenoriaeth o hyd, wrth i’r Coleg fagu momentwm, a bydd hynny’n sicr o fudd i fyfyrwyr a dysgwyr yr ardal."
Gwelwyd rhai o’r manteision yn barod – er enghraifft, y gwaith sydd ar droed i sefydlu Man Busnes ar gampws Dolgellau. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn darparu hyfforddiant a gwasanaethau cefnogi i gyflogwyr ledled y rhanbarth.
Mae Dr Ian Rees, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor, yn cytuno: “Bydd y ddau Goleg yn dod â chryfderau i’r sefydliad cyfun, a gallwn adeiladu ar hynny fel Coleg unedig. Bydd yr uno’n galluogi i ni ddiogelu a datblygu ymhellach addysg a hyfforddiant ôl-16 yn yr ardal, a darparu cyfleoedd i fusnesau lleol.”
O gyfnod yr ymrwymiad gwreiddiol i ystyried pa mor ymarferol fyddai uniad o’r fath hyd at rŵan, cymerodd y broses ychydig dros flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod cynllunio manwl a chyfnod ymgynghori gyda rhai miloedd o ran-ddeiliaid.
Roedd yr holl adborth a gafwyd yn cefnogi’r uno, a’r ymatebwyr yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol a ddaw i ganlyn y sefydliad newydd.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg: “Mae’r uniad hwn yn dangos ymroddiad pendant i ddyfodol dysgwyr yng Ngogledd Cymru. Yn y gorffennol, chwaraeodd y ddau sefydliad ran bwysig yn addysg yr ardal. Fel un sefydliad yn y dyfodol, cynyddir eu cryfderau, a byddant yn cyfrannu i’r rhaglen weddnewid, ac ar yr un pryd, yn darparu’r cynnyrch gorau un i’w myfyrwyr.”
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Mae penderfyniad Gweinidog Addysg Cymru i adolygu effeithlonrwydd ein strwythurau addysgol yn her i bawb sy’n ymwneud â darparu addysg, yn enwedig addysg ôl-16. Bydd uno Llandrillo â Meirion-Dwyfor yn creu coleg cyhyrog yn y Gogledd a fydd yn gallu ymateb i unrhyw her newydd. Mae’n bleser gen i gefnogi’r datblygiad hwn.”
I ddysgwyr, bydd mynychu’r Coleg yn brofiad digon tebyg i’r hyn ydoedd o’r blaen, ond fe welir datblygiadau cadarnhaol. Cedwir enw Coleg Meirion-Dwyfor, ni fydd angen i fyfyrwyr deithio’n bellach nag arfer, bydd yr un trefniadau ar gael o ran dewis iaith astudio, ac mae cynlluniau ar droed i gynyddu’r cyfleoedd dysgu ymhellach, gan gynnwys ehangu’r cyfleoedd i israddedigion yn y tair sir.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llandrillo.ac.uk/merger neu www.meirion-dwyfor.ac.uk/merger.
Cliciwch yma i weld yr archif newyddion
Copyright 2005 Coleg Meirion Dwyfor. All Rights Reserved
Designed & Developed by Black Sheep Design Agency, Cardiff
Text Only
