
Amdanom Ni :: Newyddion
Colegau’n Ymgynghori ar Gynigion Uno (2009-11-11 )
Yn dilyn misoedd o drafodaethau rhwng Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Meirion-Dwyfor maent yn nesáu at gyfnod terfynol y broses cynigion uno, mae’r ddau Goleg yn darparu cyfleoedd i unigolion a sefydliadau i gynnig sylwadau ar y cynigion ac i ystyried eu barn.
Mae’r broses yn dechrau’r wythnos hon a bydd yn galluogi’r Colegau i fedryddu barn cynulleidfa ehangach ynglŷn â’r datblygiadau arfaethedig ac i ddefnyddio adborth i gyfarwyddo cynllunio a pholisi ar gyfer y sefydliad cyfun arfaethedig.
Mae’r ymgynghoriad yn rhan o’r cyfnod cynllunio sy’n cael ei gynnal gyda’r bwriad o gyflwyno cynlluniau manylach i Gorfforaethau’r ddau Goleg erbyn diwedd mis Rhagfyr 2009. Pe bai’r cynlluniau hyn yn cael eu cymeradwyo, gallai cyfuniad ffurfiol a chyfreithiol y ddau Goleg ddigwydd mor gynnar â mis Ebrill 2010.
“Mae’r broses uno’n symud yn ei blaen yn dda,” meddai Huw Evans OBE, Prifathro Coleg Llandrillo Cymru. “Mae holl elfennau’r deg ymrwymiad a wnaed i’r staff a’r myfyrwyr yn cael eu hanrhydeddu ac yn greiddiol i’r trafodaethau sy’n parhau. Byddai uno’r ddau Goleg yn ddigwyddiad cofiadwy a fyddai’n cyflwyno cyfleoedd a buddion newydd i staff, myfyrwyr a chymunedau lleol.”
“Bydd y broses ymgynghori’n darparu cyfle i fudd-ddeiliaid allweddol i fynegi eu barn a allai, o bosib, ffurfio cyfeiriad addysg a hyfforddiant yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Cymru yn y dyfodol,” ychwanegodd Dr Ian J. Rees, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor. “Mae’r ddau Goleg yn dod â chryfderau i’r bwrdd, a bydd hyn o fudd i ddysgwyr yn y rhan hon o Ogledd Cymru.”
Datblygwyd dogfen ymgynghorol ar y cyd i gefnogi’r broses hon. Gellir cael copïau ohoni o brif safleoedd y Colegau a thrwy ymweld â www.llandrillo.ac.uk/uno neu www.meirion-dwyfor.ac.uk/uno
Cliciwch yma i weld yr archif newyddion
