
Amdanom Ni :: Newyddion
Dathlu llwyddiannau ysgoloriaethau (2009-10-13 )
Yn ddiweddar fe wnaeth Coleg Meirion-Dwyfor ddathlu gwobrwyo eu Ysgoloriaethau John Tudor gyda seremoni arbennig ar safle Dolgellau.
Mr John Tudor CBE oedd Cadeirydd Corfforaeth y Coleg ac fe farw gwanwyn eleni. Roed yn adnabyddus am ei waith yn y gymuned ac ar draws Gymru. Mae’r ysgoloriaeth yn ei phedwaredd flwyddyn, ac mae’n werth £400 i wyth o fyfyrwyr o ysgolion lleol. Mae’r cyn ddisgyblion bellach yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn un o dri phrif safleoedd y coleg yn Nolgellau, Pwllheli a Glynllifon.
Mae’r ysgoloriaethau yn rhan o gynllun parhaus Coleg Meirion-Dwyfor i hyrwyddo rhagoriaeth.
Meddai Dr Ian J. Rees, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Meirion-Dwyfor:
“Mae hyrwyddo rhagoriaeth yn rhan bwysig o waith Coleg Meirion-Dwyfor, ac mae’r ysgoloriaethau yn rhan annatod o hyn. Pwrpas yr ysgoloriaethau yw i alluogi’r myfyrwyr i barhau ar y llwybr i ragoriaeth trwy eu galluogi i brynu offer arbenigol, llyfrau neu ymweliadau addysgol.
“ Yn ddiweddar fe wnaethom gynnal seremoni i’r enillwyr a’u teuluoedd i ddathlu eu llwyddiannau. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr, rydym yn mawr obeithio y gwnânt ddefnydd da o’u gwobr i ddatblygu eu profiad addysgol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ymhellach fyth.”
Enillwyr Ysgoloriaeth 09/10
Cliciwch yma i weld yr archif newyddion
