
Amdanom Ni :: Newyddion
Mr John E Tudor CBE, Cadeirydd Corfforaeth y Coleg (2009-04-21 )
Gyda thristwch mawr y daethom i glywed am farwolaeth Mr John E Tudor CBE, Cadeirydd Corfforaeth y Coleg.
Bu John yn Gadeirydd y Gorfforaeth ers pan sefydlwyd Coleg Meirion-Dwyfor yn 1993. Cyn hynny, bu’n Gadeirydd Llywodraethwyr Coleg Meirionnydd ers pan gafodd y coleg ei sefydlu – yn ogystal ag yn aelod blaenllaw o Gyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a chyrff cenedlaethol a lleol eraill. Roedd hefyd wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, ac yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am gyfnod hir, cyn iddo benderfynu rhoi’r gorau i’w gyfrifoldebau cyhoeddus, rai blynyddoedd yn ôl. Bu ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Gwynedd a Chymru’n nodedig.
Fe gwrddais i â John, am y tro cyntaf, pan benodwyd fi’n Bennaeth Coleg Meirion-Dwyfor yn 1997, a byddwn bob amser yn cael cefnogaeth werthfawr ganddo yn fy ngwaith. Roedd yn feistr caled, ac nid oedd yn un i’w danbrisio. Cefnogai ein gwaith yn y Coleg yn llwyr, ac roedd lles y myfyrwyr, a ffyniant ei ardal, yn agos iawn at ei galon. Byddwn yn gwerthfawrogi ei hiwmor, ei synnwyr cyffredin a’i gefnogaeth bersonol – weithiau, mewn sefyllfaoedd anodd – yn fawr iawn.
Wrth annerch y cyhoedd, byddai John bob amser yn cyfeirio at ddau beth:
Rwyf innau’n eilio’r ddau sylw.
Ddoe (dydd Sul) y bu farw John, ar ôl dychwelyd adref wedi gwyliau gyda’i ferch, Ruth, a’i theulu. Roedd ei deulu’n golygu llawer iawn iddo, a byddai’r amser a dreuliodd gyda hwy, cyn ei farw annisgwyl, wedi rhoi llawenydd mawr iddo.
Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant â’i deulu i gyd. Byddwn yn ei golli’n fawr.
Dr Ian J Rees
Pennaeth
Cliciwch yma i weld yr archif newyddion
Copyright 2005 Coleg Meirion Dwyfor. All Rights Reserved
Designed & Developed by Black Sheep Design Agency, Cardiff
Text Only
