Welcome
aboutus

Amdanom Ni :: Newyddion

Myfyrwyr ar y brig unwaith eto - Coleg Meirion-Dwyfor (2008-08-15 )

Eto eleni cafwyd llwyddiannau mawr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wrth i oddeutu 175 o fyfyrwyr dderbyn canlyniadau arholiadau lefel A.

“Coleg Meirion-Dwyfor yw'r datblygiad addysgol mwyaf yr ardal ers sefydlu'r ysgolion cyfun, ac mae'n ardderchog gweld ei lwyddiant yn cynyddu. Mae'n braf gweld myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn llwyddo o flwyddyn i flwyddyn. Eto eleni mae'r safon uchel wedi cael ei gynnal,” meddai Mr John Tudor, Cadeirydd Corfforaeth y Coleg.

Roedd canran llwyddiant y Coleg (98.6%) yn yr arholiadau Safon Uwch, a gyhoeddwyd gan CBAC heddiw, yn ganlyniad uwch na'r canran cenedlaethol (97.6%).

“Mae'n hynod o braf gweld myfyrwyr y Coleg yn llwyddo eto eleni. Yn gyson mae ystadegau llwyddiant y Coleg yn well na ffigyrau cymharol ar lefel genedlaethol,” meddai Pennaeth y Coleg, Dr Ian J. Rees.

“Mae canran graddau A y Coleg (35.3%) sydd hefyd yn llawer uwch na'r ffigwr genedlaethol (24.1%). Mae'n adlewyrchu gwaith caled y myfyrwyr ac ymroddiad staff y coleg. Mae'r canlyniadau hefyd yn deyrnged i'r ysgolion uwchradd y dalgylch sydd wedi addysgu'r myfyrwyr am gyfnod o 5 mlynedd cyn iddynt ddod i'r Coleg. Dymuniadau da i'r myfyrwyr sy'n ein gadael eleni, ac wrth gwrs i'n darpar fyfyrwyr fydd yn cael eu canlyniadau TGAU.”

Roedd y Pennaeth yn hynod falch o'r ffaith fod 18 o'r pynciau wedi cael llwyddiant arbennig( 100%).

Hefyd, roedd myfyrwyr a wnaeth gwblhau eu blwyddyn gyntaf (AS) o'u hastudiaethau Lefel A yn dychwelyd i'r coleg heddiw i dderbyn eu canlyniadau diwedd blwyddyn. Eto, roedd canlyniadau llwyddiant AS Coleg Meirion-Dwyfor (90.7%) yn uwch o'i gymharu β ffigyrau cenedlaethol (88.5% ). Roedd canlyniadau llwyddiant gradd A y coleg (22.2 %) yn llawer iawn uwch na'r canran cenedlaethol (18.1%). Bydd y myfyrwyr hyn yn dychwelyd i Goleg Meirion-Dwyfor ym mis Medi i gwblhau eu Lefel A. Diwedd

Am wybodaeth bellach cysylltwch β Nia Wyn, Swyddog Cyfathrebu - 07736 106 921

Cliciwch yma i weld yr archif newyddion

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs