Welcome
aboutus

Amdanom Ni :: Newyddion

Ar ein ffordd i Awstralia! - Coleg Meirion Dwyfor (2008-06-19 )

Heddiw (Iau 19.06.08) mae tîm o fyfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor yn cychwyn ar daith fythgofiadwy i Sydney, Awstralia, i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol yr Her Fenter Fyd Eang. Mae pob aelod o'r tîm yn astudio Busnes ar safle'r coleg yn Nolgellau, ac maent newydd orffen eu harholiadau cyn paratoi eu hunain am yr her fawr nesaf.

Mae Mili Mererid, Lindsey Jones, David Morris, Alex Jones, Rhodri Gravell a Ryan Weir, ynghyd â rhai o staff y coleg, yn hedfan i ochor arall y byd i gystadlu mewn her fenter pedair awr ar hugain yn erbyn timau o bob cwr o'r byd.

I gyrraedd y rownd derfynol fe fu'r tîm yn cystadlu mewn her yng Nghaerdydd gan lwyddo i guro ugain o golegau Addysg Bellach Cymru.Dros gyfnod o bedair awr ar hugain roedd rhaid i'r timau gael syniad am fusnes a fyddai o fudd i'r ardal leol, creu cynllun busnes a strategaeth farchnata, a wedyn eu cyflwyno i'r beirniaid. Ni fydd tîm Coleg Meirion-Dwyfor yn gwybod pa her fenter fydd yn eu haros nes iddynt wynebu eu gwrthwynebwyr yn Sydney.

Bydd Maureen Jones, tiwtor Busnes yn Nolgellau, yn mynd gyda'r myfyrwyr ar eu taith. Meddai:

“Dwi'n falch iawn o'r myfyrwyr a wnaeth ennill Her Cymru; mi wnaethon nhw weithio'n galed iawn am y bedair awr ar hugain a chreu syniadau gwych ar gyfer busnes.

“Fel eu tiwtor dwi'n teimlo'n fel John Toshack pan mae'n mynd â thîm Cymru o'r wlad i chwarae! Mae'r myfyrwyr yn benderfynol o weithio'n galed yn Sydney ac rwy'n mawr obeithio y gwnân nhw'n dda eto.

“Mae'n fraint mynd â'r myfyrwyr i Sydney i gynrychioli Cymru yn yr Her Fenter Fyd Eang, mi wnaethon nhw weithio'n galed iawn ar lefel genedlaethol a dwi'n hyderus y gwnân nhw'n dda ar lefel ryngwladol hefyd.”

Mae Ryan Weir o Dywyn yn aelod o'r tim, dywedodd:

“Roeddem wedi gwirioni pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yng Nghaerdydd, ac mi wnaethon ni wirioni'n fwy byth pan ddeallon y buasem yn gallu cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn Awstralia. Mae'n gryn anrhydedd i ni gynrychioli Coleg Meirion-Dwyfor a Chymru mewn digwyddiad mor bwysig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn, ac rydym yn gobeithio y gallwn feddwl am syniadau da a thrio'n gorau. Dwi'n meddwl ei fod yn brofiad arbennig i ni gyd.”

Roedd y myfyrwyr wedi rhoi eu bryd ar gael mynd i Awstralia i gymryd rhan yn y rownd derfynol ac fe wnaethon gais am arian gan Ymddiriedolaeth Peter Saunders. Cafodd y cais ei dderbyn gan Fwrdd yr Ymddiriedolaeth. Roedd stori'r myfyrwyr wedi denu sylw Peter Saunders, y dyn busnes a ddechreuodd Halo Foods gyda phum aelod o staff ac a dyfodd i fod yn gyflogwr i bum cant cyn gwerthu'r busnes yn 2004.

Mae Mr Saunders bellach yn buddsoddi ac yn cynghori busnesau ar draws Cymru. Dywedodd: “ I lwyddo mewn busnes” meddai “ mae'n rhaid cael syniad da a thîm rheolaethol da sydd â brwdfrydedd ac egni i yrru ymlaen i ddod dros anawsterau a llwyddo yn y pendraw. Er eu bod yn ifanc, mae'r myfyrwyr wedi dangos rhai o'r nodweddion hyn ac maen nhw'n llawn haeddu cynrychioli Cymru yn Sydney.”

Fe yrrodd yr Ymddiriedolaeth lythyr at y myfyrwyr i gadarnhau eu bod am eu cefnogi. “Pan gawsom ni'r llythyr gan yr Ymddiriedolaeth roeddem wedi ein cyffroi,” meddai David Morris o Dywyn. “Er bod angen i ni godi rhagor o arian i dalu am y daith, roedd yr arian a gawsom ni gan yr Ymddiriedolaeth yn ddigon i ni allu ymrwymo'n hunain i fynd i Awstralia.”

Dywedodd Maureen Jones, Tiwtor Busnes yn Nolgellau, “Mae ein gwerthfawrogiad i Ymddiriedolaeth Peter Saunders yn fawr iawn, am iddyn nhw gydnabod llwyddiant ein myfyrwyr ac am iddyn nhw gefnogi'r cyfle anhygoel mae'r myfyrwyr yn ei gael.”

Bore Llun nesaf bydd myfyrwyr a staff y coleg, a theuluoedd a ffrindiau'r tim, yn aros yn eiddgar i gael clywed sut hwyl gafodd y tim ar yr her dros y penwythnos. Mae'r rhai sy'n ddigon dewr i aros yn effro trwy'r nos am edrych ar y gystadleuaeth fyw ar we.

Meddai Dr Ian J. Rees, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor:

“Mae cael tîm o Goleg Meirion-Dwyfor yn cynrychioli Cymru yn yr Her Fyd Eang yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Roedd safon y gwaith a gynhyrchwyd gan y myfyrwyr yn yr her yng Nghaerdydd wedi cael ei frolio gan y beirniaid, ac mi wnaiff hwn eu paratoi ar gyfer yr her nesaf yn Sydney. Pob lwc iddynt, a gobeithio y gwnân nhw fwynhau'r profiad arbennig yma.”

Cliciwch yma i weld yr archif newyddion

Gwynedd NI
latest news
Llwyddiannau Lefel A i fyfyrwyr

19th August 2010
Mwy o wybodaeth
download
Cliciwch yma i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf a mwy.
pdfs